Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Fel partneriaid rydym yn rhannu ymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio’n dda er budd y rhai y mae arnynt eu hangen a’u gofalwyr. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod gofynion newydd ar yr holl sefydliadau sy’n comisiynu ac yn darparu gofal. Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn cydweithio i ymateb i’r gofynion hynny, gan wella gwasanaethau a’u cydgysylltu hyd y gellir fel eu bod yn cyflawni’r deilliannau gorau i’n dinasyddion.

EIN BLAENORIAETHAU

Mae'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wedi nodi nifer o flaenoriaeth strategol y mae am weithio arnynt dros y flwyddyn i 18 mis nesaf. Nodwyd asiantaethau o fewn y bartneriaeth a fydd yn rhoi arweiniad ar bob maes yn y rhanbarth.

Comisiynu integredig
Information, Advice and Assistance-v2
  • Gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd fel sefydliadau partner i ddatblygu dull cydgysylltiedig o asesu'r angen am ofal a chymorth yn y rhanbarth, gan gomisiynu'r gwasanaethau hynny a gweithio gyda darparwyr gwasanaethau i sicrhau bod y gwasanaethau o'r ansawdd uchaf a'u bod ar gael i bawb y mae eu hangen arnynt.
Atal a Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Integrated Assessment
  • Datblygu gwasanaethau ataliol yn ein cymunedau a mabwysiadu fframwaith rhanbarthol cyson ar gyfer gwaith atal
  • Cefnogi datblygu mentrau cymdeithasol a microfentrau fel rhan allweddol o'r 'farchnad’ atal
  • Sefydlu gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar draws y rhanbarth sy'n helpu pobl i helpu eu hunain, sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at gymorth priodol yn eu cymunedau a lleihau'r angen i bobl gael gofal a chymorth parhaus
  • Datblygu Dewis Cymru ac Infoengine yn safleoedd defnyddiol i ddinasyddion a gweithwyr proffesiynol a chysylltu'r rhain â gwasanaeth 111 y GIG
Integreiddio Gwasanaethau a Chronfeydd ar y Cyd
  • Nodi cyfleoedd i integreiddio gwasanaethau ymhellach a sefydlu cyllidebau ar y cyd i helpu i ddarparu gwasanaethau di-dor a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael
Trawsnewid Gwasanaethau Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl
  • Parhau i symud oddi wrth ofal dwys, sydd wedi'i sefydliadoli, a sicrhau bod ystod o gymorth yn y gymuned ar gael i helpu pobl sydd ag anabledd dysgu neu broblem iechyd meddwl i aros yn annibynnol a chymryd rhan lawn yn y gymdeithas.
    Arweinydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
  • Cyflwyno un system electronig ar draws gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol o fewn y GIG, a fydd yn symleiddio'r rhyngweithio â'r cyhoedd a gwella'r modd y caiff gwybodaeth ei rhannu ar draws asiantaethau.
Gweithlu
Engaging Citizens
  • Datblygu strategaeth ranbarthol i ddenu pobl at ofal a chymorth fel gyrfa gadarn a sicrhau bod staff yn cael eu harfogi i ddarparu gwasanaethau modern, ymatebol ac integredig
  • Sicrhau bod y cyllid sydd ar gael megis Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru a Grant Hwyluso yn cefnogi gweithlu modern ac yn sicrhau arferion a safonau cyson ar draws y rhanbarth
Gofalwyr
Integrating Services
  • Cydnabod y cyfraniad pwysig iawn y mae gofalwyr yn ei wneud i lesiant pobl agored i niwed ac o ran atal yr angen am ofal a chymorth ffurfiol, gan fuddsoddi mewn clustnodi gofalwyr a chomisiynu amrywiaeth o gymorth i hwyluso llesiant a gwytnwch gofalwyr
  • Sicrhau bod anghenion gofalwyr yn parhau i fod yn rhan ganolog o'r gwaith ehangach o ailddylunio a moderneiddio gwasanaethau
Yr Iaith Gymraeg
Population Assessment
  • Gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y 'cynnig rhagweithiol' ar gael ledled Gorllewin Cymru, sy'n golygu y gall pobl gael mynediad i ofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno hynny
  • Sefydlu cymuned ymarfer ranbarthol i rannu dulliau gweithredu a chael cymaint o effaith â phosibl