Hyb Cydgysylltu Arloesedd Rhanbarthol Gorllewin Cymru
Pwy ydym ni?
Ni yw Hyb Cydgysylltu Arloesedd Rhanbarthol Gorllewin Cymru, ond gallwch ein galw yn RIC yn fyr. Mae’r RIC yn ganolbwynt sy’n dod â gwahanol syniadau, arloesiadau a gwelliannau at ei gilydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru.
Beth rydym yn ei wneud?
Rydym yn dîm sydd wedi’i sefydlu er mwyn cysylltu’r GIG, sefydliadau academaidd ac awdurdodau lleol gan gynnwys y trydydd sector a sefydliadau eraill yn y diwydiant, er mwyn cynyddu lledaeniad a mabwysiadu arloesedd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Fodd bynnag, ni waeth pa adran/sefydliad neu swydd sydd gennych, cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw syniadau newydd neu ffyrdd o wella ein gwasanaethau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Y ffordd hawsaf i anfon eich syniadau atom, yw llenwi’r blwch awgrymiadau syniadau i ni. Ni allwn aros i glywed am eich holl syniadau arloesol. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy anfon e-bost atom ar wwric.hub.HDD@wales.nhs.uk